

Mae Angenfilod yn beilot o animeiddiadau byr sy'n cynnwys pobl ifanc yn dysgu Gwyddoniaeth. Ymunwch â Dr Frankenstein yn ei labordy gan ddysgu am y Tabl Cyfnodol a'r Elfennau, Prosesau a phynciau maes llafur Cyfnodau Allweddol 1 a 2 eraill mewn ffordd hwyliog a difyr. Mae'r cymeriadau Angenfilod yn cynrychioli prosesau ac elfennau, gan alluogi plant i gysylltu cymeriad â phroses y byd go iawn.